Cais am Gopi o Dystysgrif
Mae Swyddfa Gofrestru Sir Benfro yn cadw gwybodaeth ar gyfer pob cofrestriad genedigaeth, priodas, partneriaeth sifil a marwolaeth a ddigwyddodd yn Sir Benfro.
Os cofrestrwyd yr achlysur yn rhywle arall, e.e. y tu allan i Sir Benfro, byddai angen i chi gysylltu â'r swyddfa gofrestru leol berthnasol (yn agor mewn tab newydd).
Gwasanaeth safonol
Mae tystysgrifau yn costio £12.50 yr un.
Gellir anfon eich tystysgrif atoch drwy wasanaeth ail ddosbarth y Post Brenhinol (o fewn 15 diwrnod gwaith). Mae opsiwn y mae angen llofnod ar ei gyfer ar gael am £3.50.Gallwch hefyd ei chasglu o'n swyddfa yn Archifdy Sir Benfro.
Gwasanaeth â blaenoriaeth
Os oes angen eich tystysgrif arnoch ar frys, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth â blaenoriaeth
Y ffi am dystysgrif â blaenoriaeth yw £38.50.
Bydd eich tystysgrif yn cael ei hanfon atoch drwy ddosbarth cyntaf y Post Brenhinol
- ar yr un diwrnod gwaith os daw eich cais i law cyn 11.30am
- y diwrnod gwaith nesaf os daw eich cais i law ar ôl 11.30am.
Sylwer: Ni allwn warantu danfoniad diwrnod nesaf oni bai eich bod yn dewis y gwasanaeth â blaenoriaeth ac yn talu am ddosbarthiad diwrnod nesaf y Post Brenhinol, y mae ffi ychwanegol o £8.50 amdano.
Mae opsiwn y mae angen llofnod ar ei gyfer ar gael am £3.50.Gallwch hefyd ei chasglu o'n swyddfa yn Archifdy Sir Benfro.
Sylwer: os ydych yn casglu eich tystysgrif, byddwn yn eich ffonio yn gyntaf i adael i chi wybod ei bod yn barod i'w chasglu.
Cyn i chi wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu’r holl wybodaeth y gofynnir amdani fel y gallwn ddod o hyd i'r dystysgrif sydd ei hangen arnoch.
At ddiben canfod ac atal trosedd, gellir trosglwyddo gwybodaeth yn ymwneud â’r cais hwn i adrannau eraill y llywodraeth neu asiantaethau gorfodi’r gyfraith.
Am ragor o wybodaeth:
Rhif ffôn: 01437 775176
Cyfeiriad e-bost: registrar@pembrokeshire.gov.uk
Oriau agor:Dydd Llun i ddydd Gwener, 9.00yb i 5.00yp
Dim ond at ddiben trefnu apwyntiad y bydd eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu ac i reoli a thalu am eich seremoni neu am dystysgrif.Bydd eich data personol yn cael ei brosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018. Mae’r gyfraith ynglŷn â diogelu data yn disgrifio’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data fel y bo angen er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith o dan rwymedigaeth gyfreithiol. At ddiben canfod ac atal trosedd, gellir trosglwyddo gwybodaeth yn ymwneud â’r cais hwn i adrannau eraill y llywodraeth neu asiantaethau gorfodi’r gyfraith. Os oes gennych bryderon ynglŷn â sut y cafodd eich data ei drin, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r cyngor drwy anfon neges e-bost i dataprotection@pembrokeshire.gov.uk neu edrychwch ar hysbysiad preifatrwydd y gwasanaeth.