Trefnu apwyntiad i gofrestru marwolaeth
Rydym yn estyn ein cydymdeimlad atoch yn dilyn eich colled.
Diolch i chi am ddefnyddio ein system archebu ar-lein.
- Dim ond apwyntiadau a drefnwyd ymlaen llaw yr ydym yn eu cynnig. Ni allwn dderbyn apwyntiadau galw heibio.
Bydd yr wybodaeth ganlynol yn eich helpu i ddeall yr hyn y mae angen i chi ei wneud i gofrestru marwolaeth.
Darllenwch y wybodaeth ganlynol yn ofalus:
Rhaid cofrestru marwolaeth
- o fewn pum diwrnod i’r archwilydd meddygol gyflwyno’r Dystysgrif Feddygol ar gyfer Achos Marwolaeth
(Bydd yr archwilydd meddygol yn rhoi rhif cyfeirnod i chi a bydd ei angen arnoch i drefnu eich apwyntiad)
neu
- o fewn saith diwrnod i’r crwner gyhoeddi ffurflen CN2 (anfonir ffurflen CN2 gan grwner i’ch swyddfa gofrestru i gofrestru marwolaeth pan fydd atgyfeiriad crwner, post-mortem, neu gwest)
(Os yw’r farwolaeth wedi’i chyfeirio at y crwner, ni fyddwch yn derbyn rhif cyfeirnod – nodwch ‘CN2’ pan ofynnir amdano)
- Yn yr ardal gofrestru lle digwyddodd y farwolaeth
- Os ydyw’r farwolaeth mewn ysbyty neu gartref gofal preswyl yn Sir Benfro, dylid ei chofrestru gyda swyddfa gofrestru Sir Benfro
- Os ydyw’r farwolaeth yn rhywle arall, gwiriwch yn ofalus fod y lleoliad o fewn ardal gofrestru Sir Benfro cyn trefnu eich apwyntiad gyda ni. Dod o hyd i swyddfa gofrestru (yn agor mewn tab newydd)
- Os ydyw’r farwolaeth y tu allan i Sir Benfro, dylech naill ai gysylltu â’r ardal gofrestru berthnasol (yn agor mewn tab newydd) yn uniongyrchol i drefnu apwyntiad neu gallwch wneud datganiad yn swyddfa gofrestru Sir Benfro a byddwn yn anfon y manylion i’r swyddfa gofrestru berthnasol ar eich rhan.
Sylwer: Os ydych am wneud datganiad, gallai gymryd nifer o ddyddiau ar ôl eich apwyntiad i gwblhau’r broses gofrestru a chynhyrchu’r tystysgrifau (gall fod yn gyflymach mynd yn uniongyrchol i’r ardal gofrestru wreiddiol).
Cyn trefnu eich apwyntiad
- Ceisiwch y rhif cyfeirnod ar gyfer y Dystysgrif Feddygol ar gyfer Achos Marwolaeth gan yr archwilydd meddygol neu ceisiwch gadarnhad gan y crwner (os yn berthnasol) ei fod wedi cyflwyno ffurflen CN2.
Ni fyddwn yn gallu cofrestru’r farwolaeth heb un o’r ffurflenni hyn.
- Ar ôl i chi drefnu eich apwyntiad, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw nodyn o’ch rhif cyfeirnod archebu rhag ofn y bydd angen i chi newid neu ganslo’ch apwyntiad.
- Bydd eich e-bost cadarnhau yn cynnwys gwybodaeth bwysig am eich apwyntiad, felly darllenwch y neges e-bost yn ofalus i wneud yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch i gwblhau’r broses gofrestru.
- Os nad ydych yn siarad Cymraeg neu Saesneg yn rhugl, bod angen i chi gael rhywun i gyfieithu ar eich rhan. Nid oes unrhyw gyfyngiad ar bwy a all wneud hyn.
Ar ddiwrnod eich apwyntiad
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd mewn da bryd ar gyfer eich apwyntiad, yn ddelfrydol 10 munud cyn amser cychwyn yr apwyntiad fel y gallwn gadarnhau eich bod wedi cyrraedd.
- Yn anffodus, os byddwch yn cyrraedd fwy na 10 munud yn hwyr ar gyfer eich apwyntiad, mae’n annhebygol y bydd y cofrestrydd yn gallu eich gweld, a bydd angen i chi drefnu apwyntiad arall.
Am ganllawiau pellach ar sut i gofrestru marwolaeth, ewch i Sut i gofrestru marwolaeth (yn agor tab newydd).