Cam 2 o 6

Trefnu seremoni briodas neu gofrestru priodas

Croeso i’n gwasanaeth trefnu seremoni.

Os hoffech chi ddarganfod mwy am eich opsiynau a ffioedd trefnu seremoni cyn archebu, ewch i: Seremonïau Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd).

Darllenwch yr wybodaeth ganlynol cyn i chi barhau â’ch trefniant:

  • Gellir trefnu hyd at dair blynedd ymlaen llaw ond rhaid trefnu o leiaf dri mis cyn dyddiad y seremoni. Os oes angen trefniant brys arnoch, cysylltwch â ni.
  • Mae priodasau a phartneriaethau sifil yn gofyn i chi lofnodi datganiad cyfreithiol yn eich swyddfa gofrestru leol i ddweud eich bod yn bwriadu priodi neu ffurfio partneriaeth sifil. Gelwir hyn yn ‘cyflwyno rhybudd’. Dylid gwneud hyn tua chwe mis cyn eich seremoni ond gellir ei wneud rhwng 28 diwrnod a deuddeg mis cyn y seremoni.
  • Wrth drefnu priodas neu bartneriaeth sifil gofynnir cyfres o gwestiynau i chi er mwyn sicrhau y gallwch fodloni’r gofynion cyfreithiol. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
    • Eich cenedligrwydd a ble rydych yn byw – cyn cyflwyno rhybudd rhaid i chi fod yn byw yng Nghymru neu Loegr am o leiaf naw diwrnod (gan gynnwys diwrnod eich apwyntiad).
    • Os ydych wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil o’r blaen ac, os felly, sut y bwriadwyd hynny.
    • P’un a ydych dros 18 oed
  • Byddwn yn gwneud popeth posibl i gadw eich seremoni ar yr amser a ddewiswch pan fyddwch yn trefnu. Fodd bynnag, er mwyn caniatáu ar gyfer teithio rhwng lleoliadau, efallai y bydd angen i ni addasu’r amser cychwyn o bryd i’w gilydd. Os bydd hyn yn angenrheidiol, byddwn yn cysylltu â chi o fewn tri diwrnod gwaith i’ch trefniant i drafod a chytuno ar amser newydd.
  • Os nad yw’r amser sydd orau gennych ar gael, nodwch yr amser sydd orau gennych yn y nodiadau trefnu a byddwn yn cysylltu â chi os yw ar gael.
  • I gwblhau eich trefniant bydd angen i chi wneud taliad i ‘gadw’r dyddiad’ ar gyfer eich seremoni. 
  • I gadarnhau eich trefniant ar gyfer seremoni bydd angen i chi dalu blaendal o fewn 14 diwrnod (neu’r ffi lawn yn achos cofrestriad syml neu gofrestriad adeilad crefyddol). Os na dderbynnir eich blaendal o fewn 14 diwrnod byddwn yn cymryd yn ganiataol nad oes angen y trefniant mwyach ac yn ei ddileu o’n dyddiadur.
  • Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich trefniant gofynnir i chi greu cyfrif ar-lein, a fydd yn caniatáu i chi reoli eich cynlluniau ar gyfer y seremoni a thaliadau. 

Os hoffech siarad ag un o’n tîm cyn trefnu, mae croeso i chi gysylltu â ni. Os ydych yn e-bostio, nodwch rif cyswllt yn ystod y dydd.

Cyfeiriad e-bost: ceremonies@pembrokeshire.gov.uk

Rhif ffôn: 01437 775826

A simple marriage registration

With two adult witnesses in our register office at Pembrokeshire Archives, Haverfordwest (simple registrations are only available on Tuesdays).

Yes, I want this

A simple or enhanced ceremony in our ceremony room

With options for up to eight or 30 guests (Wednesday to Friday) and up to 60 guests (Saturday only) in our ceremony room at Pembrokeshire Archives, Haverfordwest.

Yes, I want this
Options

An enhanced ceremony at an approved premise

A personalised ceremony held at one of the many licenced wedding and civil partnership venues in Pembrokeshire.

Yes, I want this

A registrar required for a religious wedding.

A wedding in religious building which requires a registrar in attendence.

Yes, I want this

Cancel booking

© Zipporah Ltd.