Gwasanaethau Cofrestru Sir Benfro
Croeso i system cadw lle ar-lein Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro
Sylwch: nid oes angen i chi fewngofnodi i'r system cadw lle os ydych yn aelod o'r cyhoedd sy’n trefnu apwyntiad i gofrestru genedigaeth neu farwolaeth, am roi hysbysiad os yw eich seremoni yn digwydd y tu allan i Sir Benfroneu wneud cais am dystysgrif geni, marwolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil.
Mewngofnodi i gyfrif porth y seremoni
Os oes gennych seremoni wedi'i threfnu yn Sir Benfro ac wedi cael manylion eich cyfrif, gallwch fewngofnodi i'ch porth i archebu eich hysbysiadau, gweld eich ffioedd a'ch taliadau a chynllunio eich seremoni.
Mewngofnodi i borth y seremoni
Trefnu seremoni
Trefnwch eich seremoni briodas neu gofrestriad yn ein swyddfa gofrestru yn Archifdy Sir Benfro, Hwlffordd, un o’n safleoedd cymeradwy yn Sir Benfro, adeilad crefyddol yn Sir Benfro neu mewn lleoliad arall.
Trefnu seremoni partneriaeth sifil
I trefnu partneriaeth sifil, seremoni sy'n digwydd mewn lleoliad heb drwydded, seremoni adnewyddu addunedau neu ymrwymiad, ffoniwch 01437 775176.
Tystysgrif geni, marwolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil
Mae Swyddfa Gofrestru Sir Benfro yn cadw gwybodaeth ar gyfer pob cofrestriad genedigaeth, priodas, partneriaeth sifil a marwolaeth a ddigwyddodd yn Sir Benfro.
Os cofrestrwyd yr achlysur yn rhywle arall, e.e. y tu allan i Sir Benfro, byddai angen i chi gysylltu â'r swyddfa gofrestru leol berthnasol (yn agor mewn tab newydd).
Trefnu apwyntiad i gofrestru genedigaeth
Trefnu apwyntiad i gofrestru genedigaeth a ddigwyddodd yn Sir Benfro neu archebwch apwyntiad datganiad geni ar gyfer genedigaeth a ddigwyddodd y tu allan i Sir Benfro.
Trefnwch apwyntiad i gofrestru genedigaeth
Trefnu apwyntiad i marwolaeth
Gofynnwch am apwyntiad i gofrestru marwolaeth a ddigwyddodd yn Sir Benfro neu trefnu apwyntiad i ddatgan marwolaeth ar gyfer marwolaeth a ddigwyddodd y tu allan i Sir Benfro.
Gofyn am apwyntiad cofrestru marwolaeth (digwyddodd y farwolaeth yn Sir Benfro)
Trefnwch apwyntiad i roi hysbysiad o briodas neu partneriaeth sifil
Sylwch: dim ond os ydych wedi byw yn Sir Benfro am o leiaf 7 diwrnod clir cyn eich apwyntiad y gallwch roi rhybudd yn Sir Benfro.
Trefnwch apwyntiad i roi hysbysiad o briodas
Trefnwch apwyntiad i roi hysbysiad o bartneriaeth sifil
Am ragor o wybodaeth:
Rhif ffôn: 01437 775176
Cyfeiriad e-bost: registrar@pembrokeshire.gov.uk
Oriau agor:Dydd Llun i ddydd Gwener, 9.00yb i 5.00yp
Dim ond at ddiben trefnu apwyntiad y bydd eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu ac i reoli a thalu am eich seremoni neu am dystysgrif.Bydd eich data personol yn cael ei brosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018. Mae’r gyfraith ynglŷn â diogelu data yn disgrifio’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data fel y bo angen er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith o dan rwymedigaeth gyfreithiol. Os oes gennych bryderon ynglŷn â sut y cafodd eich data ei drin, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r cyngor drwy anfon neges e-bost i dataprotection@pembrokeshire.gov.uk neu edrychwch ar hysbysiad preifatrwydd y gwasanaeth.
This page is also available in English.